Lamentations 1:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A holl harddwch merch Seion a ymadawodd â hi; y mae ei thywysogion hi fel hyddod heb gael porfa, ac yn myned yn ddi-nerth o flaen yr ymlidiwr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae popeth oedd hi'n ymfalchïo ynddo wedi ei gymryd oddi ar Jerwsalem. Roedd ei harweinwyr fel ceirw yn methu dod o hyd i borfa, ac yn rhy wan i ddianc oddi wrth yr heliwr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Diflannodd y cyfan o'i hanrhydedd oddi wrth ferch Seion; y mae ei thywysogion fel ewigod sy'n methu cael porfa; y maent wedi ffoi, heb nerth, o flaen yr erlidwyr.