Lamentations 1:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y mae Jerwsalem, yn nyddiau ei blinder a'i chaledi, yn cofio ei holl hyfrydwch oedd iddi yn y dyddiau gynt, pan syrthiodd ei phobl hi yn llaw y gelyn, heb neb yn ei chynorthwyo hi: y gelynion a'i gwelsant hi, ac a chwarddasant am ben ei sabothau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae Jerwsalem, sy'n dlawd a digartre, yn cofio ei holl drysorau — sef y pethau gwerthfawr oedd piau hi o'r blaen. Pan gafodd ei choncro gan ei gelynion doedd neb yn barod i'w helpu. Roedd ei gelynion wrth eu boddau, ac yn chwerthin yn ddirmygus wrth iddi gael ei dinistrio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn nydd ei thrallod a'i chyni y mae Jerwsalem yn cofio'r holl drysorau oedd ganddi yn y dyddiau gynt. Pan syrthiodd ei phobl i ddwylo'r gwrthwynebwyr, heb neb i'w chynorthwyo, edrychodd ei gwrthwynebwyr arni a chwerthin o achos ei dinistr.