Lamentations 1:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Jerwsalem a bechodd bechod; am hynny y symudwyd hi: yr holl rai a'i hanrhydeddent sydd yn ei diystyru hi, oherwydd iddynt weled ei noethni hi: ie, y mae hi yn ucheneidio, ac yn troi yn ei hôl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Jerwsalem wedi pechu'n ofnadwy, felly cafodd ei thaflu i ffwrdd fel peth aflan. Mae pawb oedd yn ei hedmygu bellach yn gwneud sbort wrth ei gweld hi'n noeth. A dyna lle mae hithau'n griddfan ar lawr ac yn cuddio ei hwyneb mewn cywilydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pechodd Jerwsalem yn erchyll; am hynny fe aeth yn ffieidd-dra. Y mae pawb oedd yn ei pharchu yn ei dirmygu am iddynt weld ei noethni; y mae hithau'n griddfan ac yn troi draw.