Lamentations 1:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ei haflendid sydd yn ei godre, nid yw hi yn meddwl am ei diwedd; am hynny y syrthiodd hi yn rhyfedd, heb neb yn ei chysuro. Edrych, ARGLWYDD, ar fy mlinder; canys ymfawrygodd y gelyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wnaeth hi ddim meddwl beth fyddai'n digwydd yn y diwedd. Mae gwaed ei misglwyf wedi difetha ei dillad. Roedd ei chwymp yn rhyfeddol! Doedd neb yno i'w chysuro. “O ARGLWYDD, edrych arna i'n diodde!” meddai, “Mae'r gelyn wedi fy nghuro.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd ei haflendid yng ngodre'i dillad; nid ystyriodd ei thynged. Yr oedd ei chwymp yn arswydus, ac nid oedd neb i'w chysuro. Edrych, O ARGLWYDD, ar fy nhrallod, oherwydd y mae'r gelyn wedi gorchfygu.