Lamentations 2:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pa fodd y dug yr ARGLWYDD gwmwl ar ferch Seion yn ei soriant, ac y bwriodd degwch Israel i lawr o'r nefoedd, ac na chofiodd leithig ei draed yn nydd ei ddigofaint!
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
O! Mae'r Meistr wedi digio'n lân, ac wedi rhoi Jerwsalem dan gwmwl tywyll! Mae'r ddinas oedd yn ysblander Israel wedi ei bwrw i lawr i'r llwch o'r nefoedd. Yn ei lid ffyrnig, mae Duw wedi gwrthod ei deml, sef ei stôl droed sydd ar y ddaear.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
o'r fath dywyllwch a ddygodd yr Arglwydd ar ferch Seion yn ei ddig! Bwriodd ogoniant Israel o'r nefoedd i'r llawr, ac ni chofiodd am ei droedfainc yn nydd ei ddicter.