Lamentations 2:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Henuriaid merch Seion a eisteddant ar lawr, a dawant â sôn; gosodasant lwch ar eu pennau; ymwregysasant â sachliain: gwyryfon Jerwsalem a ostyngasant eu pennau i lawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r henoed sydd ar ôl yn Jerwsalem yn eistedd ar lawr yn hollol dawel. Maen nhw wedi taflu pridd ar eu pennau ac yn gwisgo sachliain yn eu tristwch. Mae merched ifanc Jerwsalem yn syllu ar lawr yn ddigalon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae henuriaid merch Seion yn eistedd yn fud ar y ddaear, wedi taflu llwch ar eu pennau a gwisgo sachliain; y mae merched ifainc Jerwsalem wedi crymu eu pennau i'r llawr.