Lamentations 2:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fy llygaid sydd yn pallu gan ddagrau, fy ymysgaroedd a gyffroesant, fy afu a dywalltwyd ar y ddaear; oherwydd dinistr merch fy mhobl, pan lewygodd y plant a'r rhai yn sugno yn heolydd y ddinas.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae fy llygaid innau'n llawn dagrau. Mae fy stumog yn corddi y tu mewn i mi. Mae'r hyn sydd wedi digwydd i'm pobl yn fy ngwneud i'n sâl. Mae plant a babis bach yn llwgu a llewygu ar strydoedd y ddinas!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dallwyd fy llygaid gan ddagrau; y mae f'ymysgaroedd mewn poen. Yr wyf yn tywallt fy nghalon allan o achos dinistr merch fy mhobl, ac am fod plant a babanod yn llewygu yn strydoedd y ddinas.