Lamentations 2:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hwy a ddywedant wrth eu mamau, Pa le y mae ŷd a gwin? pan lewygent fel yr archolledig yn heolydd y ddinas, pan dywalltent eu heneidiau ym mynwes eu mamau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae plant yn galw ar eu mamau. “Dw i eisiau bwyd. Dw i eisiau diod.” Maen nhw'n llewygu ar y strydoedd fel milwyr wedi eu hanafu. Maen nhw'n marw yn araf ym mreichiau eu mamau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oeddent yn gweiddi ar eu mamau, "Ple cawn ni rawn a gwin?" wrth iddynt lewygu fel rhai clwyfedig yn strydoedd y ddinas, ac wrth iddynt ymladd am eu bywyd ym mynwes eu mamau.