Lamentations 2:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dy broffwydi a welsant i ti gelwydd a diflasrwydd; ac ni ddatguddiasant dy anwiredd, i droi ymaith dy gaethiwed: eithr hwy a welsant i ti feichiau celwyddog, ac achosion deol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd gweledigaethau dy broffwydi yn gelwydd ac yn dwyll! Yn lle gwneud pethau'n iawn eto drwy ddangos dy bechod i ti, roedden nhw'n cyhoeddi pethau ffals ac yn dy gamarwain di.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd gweledigaethau dy broffwydi yn gelwyddog a thwyllodrus; ni fu iddynt ddatgelu dy gamwedd er mwyn adfer dy lwyddiant; yr oedd yr oraclau a roddasant iti yn gelwyddog a chamarweiniol.