Lamentations 2:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai oll a dramwyent y ffordd, a gurent eu dwylo arnat ti; chwibanent, ac ysgydwent eu pennau ar ferch Jerwsalem, gan ddywedyd, Ai dyma y ddinas a alwent yn berffeithrwydd tegwch, yn llawenydd yr holl ddaear?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae pawb sy'n pasio heibio yn curo dwylo'n wawdlyd. Maen nhw'n chwibanu'n ddirmygus ac yn ysgwyd eu pennau ar Jerwsalem druan. “Ha! Felly dyma'r un oedd yn cael ei disgrifio fel ‘y ddinas harddaf un sy'n gwneud yr holl fyd yn hapus’?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae pob un sy'n mynd heibio yn curo'i ddwylo o'th achos; y maent yn chwibanu ac yn ysgwyd eu pennau ar ferch Jerwsalem: "Ai hon yw'r ddinas a gyfrifid yn goron prydferthwch, ac yn llawenydd yr holl ddaear?"