Lamentations 2:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dy holl elynion a ledasant eu safnau arnat ti; a chwibanasant, ac a ysgyrnygasant ddannedd, ac a ddywedasant, Llyncasom hi: yn ddiau dyma y dydd a ddisgwyliasom ni; ni a'i cawsom, ni a'i gwelsom.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae dy elynion i gyd yn gwneud hwyl am dy ben; yn gwawdio ac yn gwneud ystumiau arnat. “Dŷn ni wedi ei dinistrio hi!” medden nhw. “Roedden ni wedi edrych ymlaen at y diwrnod yma, ac o'r diwedd mae wedi dod!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae dy holl elynion yn gweiddi'n groch yn dy erbyn, yn chwibanu ac yn ysgyrnygu dannedd; dywedant, "Yr ydym wedi ei difetha; dyma'r dydd yr oeddem yn disgwyl amdano; yr ydym wedi cael ei weld!"