Lamentations 2:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr ARGLWYDD a wnaeth yr hyn a ddychmygodd; ac a gyflawnodd ei air yr hwn a orchmynnodd efe er y dyddiau gynt: efe a ddifrododd, ac nid arbedodd; efe a wnaeth i'r gelyn lawenychu yn dy erbyn di; efe a ddyrchafodd gorn dy wrthwynebwyr di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r ARGLWYDD wedi gwneud beth oedd yn ei fwriadu. Mae wedi gwneud beth oedd yn ei ddweud. Roedd wedi bygwth hyn ers talwm. Mae wedi dinistrio heb ddangos trugaredd. Mae wedi gadael i'r gelyn ddathlu dy orchfygu, ac ymffrostio fod ei fyddin mor bwerus.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaeth yr ARGLWYDD yr hyn a gynlluniodd; cyflawnodd ei fwriad, a drefnodd ers amser maith, a dinistriodd yn ddiarbed; gwnaeth i'r gelyn lawenhau o'th achos, a dyrchafu corn dy wrthwynebwyr.