Lamentations 2:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ieuanc a hen sydd yn gorwedd ar lawr yn yr heolydd: fy morynion a'm gwŷr ieuainc a syrthiasant trwy y cleddyf: ti a'u lleddaist hwynt yn nydd dy soriant, lleddaist hwy heb arbed.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae hen ac ifanc yn gorwedd yn farw ar lwch y strydoedd. Bechgyn a merched ifanc wedi eu taro gan gleddyf y gelyn. Ti wnaeth hyn pan ddangosaist dy lid ffyrnig. Lleddaist nhw yn ddidrugaredd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gorwedd yr ifanc a'r hen yn y llwch ar y strydoedd; y mae fy merched a'm dynion ifainc wedi syrthio trwy'r cleddyf; lleddaist hwy yn nydd dy ddicter, a'u difa'n ddiarbed.