Lamentations 2:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ei phyrth a soddasant i'r ddaear; efe a ddifethodd ac a ddrylliodd ei barrau hi: ei brenin a'i thywysogion ydynt ymysg y cenhedloedd: heb gyfraith y mae; a'i phroffwydi heb gael gweledigaeth gan yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae giatiau'r ddinas yn gorwedd ar lawr, a'r barrau oedd yn eu cloi wedi malu. Mae'r brenin a'r arweinwyr wedi eu cymryd yn gaeth. Does neb i roi arweiniad o'r Gyfraith, a does gan y proffwydi ddim gweledigaeth gan yr ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Suddodd ei phyrth i'r ddaear; torrodd a maluriodd ef ei barrau. Y mae ei brenin a'i phenaethiaid ymysg y cenhedloedd, ac nid oes cyfraith mwyach; ni chaiff ei phroffwydi weledigaeth gan yr ARGLWYDD.