Lamentations 4:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ninnau hefyd, ein llygaid a ballasant am ein cynhorthwy ofer: gan ddisgwyl disgwyl yr oeddem ni wrth genhedlaeth ni allai ein hachub.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd ein llygaid ni wedi blino wrth i ni wastraffu'n hamser yn edrych am help. Roedden ni'n edrych allan o'r tŵr gwylio yn disgwyl am wlad wnaeth ddim dod i'n hachub ni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd ein llygaid yn pallu wrth edrych yn ofer am gymorth; buom yn disgwyl a disgwyl wrth genedl na allai achub.