Lamentations 4:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hwy a olrheiniant ein cerddediad, fel na allwn fyned ar hyd ein heolydd: y mae ein diwedd ni yn agos, ein dyddiau ni a gyflawnwyd; canys daeth ein diwedd ni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd ein gelynion yn ein hela bob cam o'r ffordd. Doedd hi ddim yn saff i ni fynd allan i'r strydoedd hyd yn oed. Roedd y diwedd yn agos; roedd ein dyddiau wedi eu rhifo; oedd, roedd y diwedd wedi dod!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oeddent yn gwylio pob cam a gymerem, fel na allem fynd allan i'n strydoedd. Yr oedd ein diwedd yn agos, a'n dyddiau'n dod i ben; yn wir fe ddaeth ein diwedd.