Lamentations 4:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwerthfawr feibion Seion, a chystal ag aur pur, pa fodd y cyfrifwyd hwynt fel ystenau pridd, gwaith dwylo'r crochenydd!
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd plant gwerthfawr Seion yn werth eu pwysau mewn aur. Ond bellach — O! maen nhw mor ddiwerth a photiau pridd wedi eu gwneud gan grochenydd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Plant gwerthfawr Seion, a oedd yn werth eu pwysau mewn aur, yn awr yn cael eu hystyried fel llestri pridd, gwaith dwylo crochenydd!