Lamentations 4:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Anadl ein ffroenau, eneiniog yr ARGLWYDD, a ddaliwyd yn eu rhwydau hwynt, am yr hwn y dywedasem, Dan ei gysgod ef y byddwn ni byw ymysg y cenhedloedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cafodd anadl bywyd y genedl, sef y brenin oedd wedi ei eneinio gan yr ARGLWYDD, ei ddal mewn trap ganddyn nhw. Dyma'r un oedden ni'n credu fyddai'n ein hamddiffyn, a'n galluogi i oroesi yng nghanol y cenhedloedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Anadl ein bywyd, eneiniog yr ARGLWYDD, a ddaliwyd yn eu maglau, a ninnau wedi meddwl mai yn ei gysgod ef y byddem yn byw'n ddiogel ymysg y cenhedloedd.