Lamentations 4:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai a ymborthent yn foethus, a ddifethwyd yn yr heolydd: y rhai a feithrinwyd mewn ysgarlad, a gofleidiant y tomennydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r bobl oedd yn arfer gwledda ar fwydydd moethus yn marw o newyn ar y strydoedd. Mae'r rhai gafodd eu magu mewn dillad crand yn crafu drwy'r sbwriel am rywbeth bach.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r rhai a arferai fwyta danteithion yn ddiymgeledd yn y strydoedd, a'r rhai a fagwyd mewn ysgarlad yn ymgreinio ar domennydd ysbwriel.