Leviticus 1:15 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dyged yr offeiriad ef at yr allor, a thorred ei ben ef, a llosged ef ar yr allor; a gwasger ei waed ef ar ystlys yr allor.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd offeiriad yn mynd â'r aderyn at yr allor bres. Yno bydd yn troi'r gwddf i dorri pen yr aderyn i ffwrdd, ac yn llosgi'r pen. Wedyn bydd yn gwasgu gwaed yr aderyn ar un ochr i'r allor.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r offeiriad i ddod ag ef at yr allor a thorri ei ben, a'i losgi ar yr allor; bydd yn gwasgu allan ei waed ar ochr yr allor,