Leviticus 1:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hollted ef, a'i esgyll hefyd; eto na wahaned ef: a llosged yr offeiriad ef ar yr allor, ar y coed a fyddant ar y tân. Dyma boethoffrwm, aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac wedyn gafael yn adenydd yr aderyn, a dechrau ei rwygo ond peidio ei dorri'n ddau. Wedyn llosgi'r cwbl ohono yn y tân ar yr allor. Mae'n offrwm i'w losgi'n llwyr, ac yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
bydd yn ei agor allan gerfydd ei adenydd, ond heb ei ddarnio; yna bydd yr offeiriad yn ei losgi ar yr allor, ar y coed sy'n llosgi, yn boethoffrwm, yn offrwm trwy dn, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.