Leviticus 1:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os poethoffrwm o eidion fydd ei offrwm ef, offrymed ef yn wryw perffaith‐gwbl; a dyged ef o'i ewyllys ei hun i ddrws pabell y cyfarfod, gerbron yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Os ydy'r offrwm sydd i'w losgi yn dod o'r gyr o wartheg, dylai fod yn anifail gwryw heb ddim byd o'i le arno. Rhaid ei gyflwyno wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw iddo gael ei dderbyn gan yr ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"'Os poethoffrwm o'r gyr fydd ei rodd, dylai ddod gwryw di-nam; deued ag ef at ddrws pabell y cyfarfod, iddo fod yn dderbyniol gan yr ARGLWYDD.