Leviticus 10:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y barwyden gyhwfan hefyd, a'r ysgwyddog ddyrchafael, a fwytewch mewn lle glân; tydi, a'th feibion, a'th ferched, ynghyd â thi: oherwydd hwynt a roddwyd yn rhan i ti, ac yn rhan i'th feibion di, o ebyrth hedd meibion Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond gyda'r frest sy'n cael ei chwifio a darn uchaf y goes ôl dde sy'n cael ei rhoi i chi, cewch chi a'ch meibion a'ch merched ei fwyta yn unrhyw le sydd wedi cael ei gysegru. Y darnau yma ydy'ch siâr chi o'r offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyt ti, dy feibion a'th ferched i fwyta brest yr offrwm cyhwfan a chlun y cyfraniad mewn lle dihalog, oherwydd fe'u rhoddwyd i ti a'th blant yn gyfran o heddoffrymau pobl Israel.