Leviticus 10:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Aaron wrth Moses, Wele, heddiw yr offrymasant eu haberth dros bechod, a'u poethoffrwm, gerbron yr ARGLWYDD; ac fel hyn y digwyddodd i mi; am hynny os bwytawn aberth dros bechod heddiw, a fyddai hynny dda yng ngolwg yr ARGLWYDD?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Aaron yn ateb Moses, “Meddylia. Heddiw roedd dau o'm meibion i wedi offrymu'r offrwm i lanhau o bechod a'r offrwm sydd i'w losgi, ac eto meddylia beth sydd wedi digwydd! Fyddai'r ARGLWYDD wedi bod yn hapus petawn i wedi bwyta'r offrwm i lanhau o bechod heddiw?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Aaron wrth Moses, "Y maent heddiw wedi cyflwyno o flaen yr ARGLWYDD eu haberth dros bechod a'u poethoffrwm, ac y mae'r fath bethau wedi digwydd i mi! A fyddai'n dderbyniol gan yr ARGLWYDD pe bawn wedi bwyta'r aberth dros bechod heddiw?"