Leviticus 10:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Moses wrth Aaron, Dyma'r hyn a lefarodd yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Mi a sancteiddir yn y rhai a nesânt ataf, a cherbron yr holl bobl y'm gogoneddir. A thewi a wnaeth Aaron.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Moses yn dweud wrth Aaron, “Dyma oedd yr ARGLWYDD yn ei olygu pan ddwedodd e: ‘Dw i am i'r offeiriaid ddangos fy mod i'n sanctaidd, a dw i am i'r bobl weld fy ysblander i.’” Roedd Aaron yn methu dweud gair.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedodd Moses wrth Aaron, "Dyma'r hyn a lefarodd yr ARGLWYDD: 'Ymysg y rhai sy'n dynesu ataf fe'm sancteiddir, a cherbron yr holl bobl fe'm gogoneddir.'" Yr oedd Aaron yn fud.