Leviticus 10:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A galwodd Moses Misael ac Elsaffan, meibion Ussiel, ewythr Aaron, a dywedodd wrthynt, Deuwch yn nes; dygwch eich brodyr oddi gerbron y cysegr, allan o'r gwersyll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Moses yn anfon am Mishael ac Eltsaffan (meibion Wssiel oedd yn ewythr i Aaron). A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Ewch â dau gorff eich perthnasau allan o'r gwersyll, yn bell oddi wrth y fynedfa i'r Tabernacl.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Galwodd Moses ar Misael ac Elsaffan, meibion Ussiel ewythr Aaron, a dywedodd wrthynt, "Dewch yma, ac ewch 'ch cefndryd allan o'r gwersyll rhag iddynt fod o flaen y cysegr."