Leviticus 11:29 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r rhai hyn sydd aflan i chwi o'r ymlusgiaid a ymlusgo ar y ddaear: y wenci, a'r llygoden, a'r llyffant yn ei ryw;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
[29-32] “‘Mae'r creaduriaid yma i'w hystyried yn aflan iawn: y llygoden fawr, llygoden a madfall o unrhyw fath. Bydd rhywun sy'n cyffwrdd corff marw un ohonyn nhw yn aflan am weddill y dydd. Ac mae beth bynnag maen nhw'n syrthio arno pan maen nhw'n marw yn aflan — llestr pren, dilledyn, unrhyw beth wedi ei wneud o ledr, neu sachliain, neu unrhyw declyn i wneud gwaith ag e. Beth bynnag ydy e, rhaid ei olchi mewn dŵr, a bydd yn aflan am weddill y dydd. Ar ôl hynny bydd e'n iawn i'w ddefnyddio eto.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"'O'r creaduriaid sy'n ymlusgo ar y ddaear, y mae'r rhain yn aflan ichwi: y wenci, y llygoden, pob math ar lysard,