Leviticus 11:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond y rhai hyn ni fwytewch; o'r rhai a gnoant eu cil ac o'r rhai a holltant yr ewin: y camel, er ei fod yn cnoi ei gil, am nad yw yn hollti'r ewin; aflan fydd i chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
[4-6] Ond peidiwch bwyta'r anifeiliaid sydd ddim ond yn cnoi cil neu sydd ond â charn fforchog. Mae unrhyw anifail sy'n cnoi cil ond heb garn fforchog i'w ystyried yn aflan — er enghraifft y camel, broch y creigiau, a'r ysgyfarnog.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae ambell un yn cnoi cil yn unig, ac un arall yn hollti'r ewin yn unig, ond nid ydych i fwyta'r rheini. Y mae'r camel yn cnoi cil, ond heb fforchi'r ewin, ac y mae'n aflan ichwi.