Leviticus 12:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thri diwrnod ar ddeg ar hugain yr erys yng ngwaed ei phuredigaeth: na chyffyrdded â dim sanctaidd, ac na ddeued i'r cysegr, nes cyflawni dyddiau ei phuredigaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fydd y wraig ddim yn hollol lân am dri deg tri diwrnod arall. Felly yn ystod y cyfnod yma o gael ei glanhau ddylai hi ddim cyffwrdd unrhyw beth cysegredig na mynd i'r cysegr i addoli.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna bydd y wraig yn disgwyl tri ar ddeg ar hugain o ddyddiau am buro ei gwaed; nid yw i gyffwrdd dim sanctaidd nac i fynd i'r cysegr nes y bydd dyddiau'r puro trosodd.