Leviticus 12:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os ei llaw ni chyrraedd werth oen, yna cymered ddwy durtur, neu ddau gyw colomen; y naill yn offrwm poeth, a'r llall yn aberth dros bechod: a gwnaed yr offeiriad gymod drosti; a glân fydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydy'r wraig ddim yn gallu fforddio oen, mae hi'n gallu cyflwyno dwy durtur neu ddwy golomen. Un yn offrwm i'w losgi a'r llall yn offrwm i lanhau o bechod. Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddi hi â Duw, a bydd hi'n lân.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"'Os na all fforddio oen, gall ddod dwy durtur neu ddau gyw colomen, y naill yn boethoffrwm a'r llall yn aberth dros bechod; bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosti, a bydd yn ln.'"