Leviticus 13:27 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac edryched yr offeiriad ef y seithfed dydd: os gan ledu y lledodd yn y croen; yna barned yr offeiriad ef yn aflan: pla gwahanglwyf yw hwnnw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yr offeiriad yn ei archwilio eto ar y seithfed dydd. Os ydy'r drwg yn lledu rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y person hwnnw'n aflan. Mae'n glefyd heintus.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar y seithfed dydd bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os bydd wedi lledu ar y croen bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n aflan; y mae'n ddolur heintus.