Leviticus 13:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r offeiriad a edrych ar y pla yng nghroen y cnawd: os y blewyn yn y pla fydd wedi troi yn wyn, a gwelediad y pla yn ddyfnach na chroen ei gnawd ef; pla gwahanglwyf yw hwnnw: a'r offeiriad a'i hedrych, ac a'i barn yn aflan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhaid i'r offeiriad archwilio'r briw. Os ydy'r blew lle mae'r drwg wedi troi'n wyn a bod y drwg i'w weld yn ddyfnach na'r croen, mae'n glefyd heintus. Rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y person hwnnw yn aflan.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd yr offeiriad yn archwilio'r dolur ar ei groen, ac os bydd y blew yn y dolur wedi troi'n wyn, a'r dolur yn ymddangos yn ddyfnach na'r croen, y mae'n ddolur heintus; wedi iddo ei archwilio, bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n aflan.