Leviticus 13:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond os y disgleirdeb fydd gwyn yng nghroen ei gnawd ef, ac heb fod yn is ei welediad na'r croen, a'i flewyn heb droi yn wyn; yna caeed yr offeiriad ar y clwyfus saith niwrnod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ond os ydy'r smotyn yn wyn, a ddim dyfnach na'r croen, a'r blew heb droi'n wyn, bydd yr offeiriad yn dweud fod y person i aros ar wahân i bawb arall am saith diwrnod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os bydd y smotyn ar ei groen yn wyn, ond heb ymddangos yn ddyfnach na'r croen, a'r blew ynddo heb droi'n wyn, bydd yr offeiriad yn cadw'r claf o'r neilltu am saith diwrnod.
Recommended Reading