Leviticus 14:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A lladded ef yr oen yn y lle y lladder y pech‐aberth, a'r poethoffrwm; sef yn y lle sanctaidd: oherwydd yr aberth dros gamwedd sydd eiddo'r offeiriad, yn gystal â'r pech‐aberth: sancteiddiolaf yw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r oen i gael ei ladd yn yr un lle ag mae'r offrwm i lanhau o bechod a'r offrwm i'w losgi yn cael eu lladd. Yr offeiriad sydd piau fe, fel gyda'r offrwm i lanhau o bechod. Mae'n gysegredig iawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd yn lladd yr oen yn y man sanctaidd lle lleddir yr aberth dros bechod a'r poethoffrwm. Fel yr aberth dros bechod, y mae'r offrwm dros gamwedd yn eiddo i'r offeiriad; y mae'n gwbl sanctaidd.