Leviticus 14:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac o weddill yr olew fyddo ar ei law, y dyd yr offeiriad ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau, ar waed yr offrwm dros gamwedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn mae i gymryd peth o'r olew sydd ar ôl yn ei law a'i roi ar waelod clust dde'r person sy'n cael ei lanhau, a hefyd ar fawd ei law dde a bawd ei droed dde. Mae'r olew i gael ei roi ar ben y gwaed gafodd ei roi arnyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd yr offeiriad yn rhoi peth o'r olew sy'n weddill yng nghledr ei law ar gwr isaf clust dde yr un a lanheir, ar fawd ei law dde ac ar fawd ei droed de, a hynny dros waed yr offrwm dros gamwedd.