Leviticus 14:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r rhan arall o'r olew fyddo ar law yr offeiriad, a rydd efe ar ben yr hwn a lanheir; a gwnaed yr offeiriad gymod drosto gerbron yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn mae i roi gweddill yr olew sydd yn ei law ar ben y person sy'n cael ei lanhau. Wedyn bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo â Duw:
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd yr offeiriad yn rhoi gweddill yr olew sydd yng nghledr ei law ar ben yr un a lanheir, ac yn gwneud cymod drosto o flaen yr ARGLWYDD.