Leviticus 14:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond os tlawd fydd, a'i law heb gyrhaeddyd hyn; yna cymered un oen, yn aberth dros gamwedd, i'w gyhwfanu, i wneuthur cymod drosto, ac un ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew yn fwyd‐offrwm, a log o olew;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Os ydy rhywun ddim yn gallu fforddio hyn i gyd, mae i gymryd un oen gwryw yn offrwm i gyfaddef bai sydd i'w godi'n uchel. Bydd yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo â Duw. Hefyd un rhan o dair o litr o olew olewydd a cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew yn offrwm o rawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Ond os yw'n dlawd a heb fedru fforddio cymaint, y mae i gymryd un oen yn offrwm dros gamwedd, yn offrwm cyhwfan i wneud cymod drosto, ynghyd degfed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew yn fwydoffrwm, log o olew,