Leviticus 14:28 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhodded yr offeiriad o'r olew a fyddo ar gledr ei law, ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau, ar y man y byddo gwaed yr offrwm dros gamwedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn mae i gymryd peth o'r olew sydd yn ei law a'i roi ar waelod clust dde'r person sy'n cael ei lanhau, a hefyd ar fawd ei law dde a bawd ei droed dde. Mae'r olew i gael ei roi ar ben y gwaed gafodd ei roi arnyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd yn rhoi peth o'r olew yng nghledr ei law ar gwr isaf clust dde yr un a lanheir, ar fawd ei law dde ac ar fawd ei droed de, sef yn yr un lle gwaed yr offrwm dros gamwedd.