Leviticus 15:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phwy bynnag a gyffyrddo â dim a fu dano, bydd aflan hyd yr hwyr: a'r hwn a'u dyco hwynt, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae unrhyw un sy'n cyffwrdd unrhyw un o'r pethau yma yn aflan am weddill y dydd. Ac os ydy rhywun yn cario rhywbeth mae wedi eistedd arno rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd ag un o'r pethau oedd dano yn aflan hyd yr hwyr; y mae unrhyw un sy'n eu codi i olchi ei ddillad, i ymolchi du373?r a bod yn aflan hyd yr hwyr.