Leviticus 15:25 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan fyddo diferlif ei gwaed yn rhedeg ar wraig lawer o ddyddiau, allan o amser ei hanhwyl, neu pan redo diferlif arni ar ôl ei hanhwyl; bydded holl ddyddiau diferlif ei haflendid hi megis dyddiau ei gwahaniaeth: aflan fydd hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Os ydy gwraig yn diodde o waedlif am gyfnod ar wahân i'w misglwyf, mae'r un peth yn wir bryd hynny. Mae hi'n aflan.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"'Pan fydd gan wraig ddiferlif gwaed am lawer o ddyddiau heblaw ar adeg ei misglwyf, neu pan fydd y diferlif yn parhau ar l ei misglwyf, bydd yn aflan cyhyd ag y pery'r diferlif, fel ar adeg ei misglwyf.