Leviticus 15:26 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pob gwely y gorweddo hi arno holl ddyddiau ei diferlif, fydd iddi fel gwely ei misglwyf; a phob dodrefnyn yr eisteddo hi arno fydd aflan, megis aflendid ei misglwyf hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd pob gwely mae hi'n gorwedd arno yn ystod y cyfnod o waedlif, ac unrhyw beth mae hi'n eistedd arno yn yr un cyfnod, yn aflan (yr un fath â phan mae hi'n diodde o'r misglwyf).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae unrhyw wely y mae'n gorwedd arno tra pery ei diferlif yn aflan, fel y mae ei gwely yn ystod ei misglwyf, ac y mae unrhyw beth y mae'n eistedd arno yn aflan, fel y mae yn ystod ei misglwyf.