Leviticus 15:30 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac offrymed yr offeiriad un yn bech‐aberth, a'r llall yn boethoffrwm; a gwnaed yr offeiriad gymod drosti gerbron yr ARGLWYDD, am ddiferlif ei haflendid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yr offeiriad yn cyflwyno un yn offrwm i lanhau o bechod a'r llall yn offrwm i'w losgi. Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddi â Duw ar ôl i'w gwaedlif hi stopio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd yr offeiriad yn offrymu'r naill yn aberth dros bechod a'r llall yn boethoffrwm, ac yn gwneud cymod drosti o flaen yr ARGLWYDD, oherwydd amhuredd ei diferlif.