Leviticus 16:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r bwch y syrthiodd arno y coelbren i fod yn fwch dihangol, a roddir i sefyll yn fyw gerbron yr ARGLWYDD, i wneuthur cymod ag ef, ac i'w ollwng i'r anialwch yn fwch dihangol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae bwch gafr Asasel i'w osod i sefyll yn fyw o flaen yr ARGLWYDD iddo wneud pethau'n iawn drwy gael ei anfon allan i Asasel yn yr anialwch.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond bydd yn cyflwyno'n fyw gerbron yr ARGLWYDD y bwch y disgynnodd coelbren y bwch dihangol arno, er mwyn gwneud iawn trwy ei ollwng i'r anialwch yn fwch dihangol.