Leviticus 16:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac aed efe allan at yr allor sydd gerbron yr ARGLWYDD, a gwnaed gymod arni; a chymered o waed y bustach, ac o waed y bwch, a rhodded ar gyrn yr allor oddi amgylch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn bydd yn mynd allan at yr allor sydd o flaen yr ARGLWYDD ac yn ei gwneud hi'n lân. Bydd yn cymryd peth o waed y tarw a gwaed y bwch gafr a'i roi ar bob un o gyrn yr allor.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna bydd yn dod allan at yr allor sydd o flaen yr ARGLWYDD, ac yn gwneud cymod drosti. Bydd yn cymryd peth o waed y bustach ac o waed y bwch, ac yn ei roi ar gyrn yr allor o'i hamgylch.