Leviticus 16:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Llefara wrth Aaron dy frawd, na ddelo bob amser i'r cysegr o fewn y wahanlen, gerbron y drugareddfa sydd ar yr arch; fel na byddo efe farw: oherwydd mi a ymddangosaf ar y drugareddfa yn y cwmwl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a dweud wrtho: “Dywed wrth Aaron dy frawd ei fod e ddim yn cael mynd i mewn i'r Lle Mwyaf Sanctaidd unrhyw bryd mae e eisiau, neu bydd e'n marw. Dyna ble fydda i'n ymddangos, mewn cwmwl uwch ben caead yr Arch, tu ôl i'r llen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dywedodd, "Dywed wrth dy frawd Aaron nad yw ar bob adeg i ddod y tu l i'r llen sydd o flaen y drugareddfa uwchben yr arch yn y cysegr, rhag iddo farw; oherwydd byddaf yn ymddangos yn y cwmwl uwchben y drugareddfa.