Leviticus 16:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gosoded Aaron ei ddwylo ar ben y bwch byw, a chyffesed arno holl anwiredd meibion Israel, a'u holl gamweddau hwynt yn eu holl bechodau; a rhodded hwynt ar ben y bwch, ac anfoned ef ymaith yn llaw gŵr cymwys i'r anialwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae i osod ei ddwy law ar ben yr anifail tra'n cyffesu beiau pobl Israel a'r holl bethau wnaethon nhw i wrthryfela a phechu yn erbyn Duw. Mae'r cwbl yn cael ei roi ar ben y bwch gafr, a bydd dyn yna yn barod i arwain yr anifail allan i'r anialwch.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd yn gosod ei ddwy law ar ben y bwch byw, ac yn cyffesu drosto holl ddrygioni a throseddau pobl Israel o achos eu holl bechodau, ac yn eu rhoi ar ben y bwch; yna bydd yn anfon y bwch i'r anialwch yng ngofal dyn a benodwyd i wneud hynny.