Leviticus 16:29 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bydded hyn yn ddeddf dragwyddol i chwi: y seithfed mis, ar y degfed dydd o'r mis, y cystuddiwch eich eneidiau, a dim gwaith nis gwnewch, y priodor a'r dieithr a fyddo yn ymdaith yn eich plith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae hyn i fod yn rheol i chi bob amser: Bob blwyddyn, ar y degfed diwrnod o'r seithfed mis, dych chi i beidio bwyta a gwneud dim gwaith — pawb, yn bobl Israel ac unrhyw un arall sy'n byw gyda chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Y mae hon yn ddeddf dragwyddol ichwi. Ar y degfed dydd o'r seithfed mis yr ydych i ymddarostwng, a pheidio gwneud unrhyw waith, pa un bynnag ai brodor ai estron ydych,