Leviticus 16:34 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bydded hyn yn ddeddf dragwyddol i chwi, i wneuthur cymod dros feibion Israel, am eu pechodau oll, un waith yn y flwyddyn. Ac efe a wnaeth megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae hyn i fod yn rheol am byth. Unwaith y flwyddyn bydd pethau'n cael eu gwneud yn iawn rhwng pobl Israel a Duw, a byddan nhw'n cael eu glanhau o'u holl bechodau.” Dyma Moses yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd hon yn ddeddf dragwyddol ichwi. Gwneir cymod unwaith y flwyddyn dros bobl Israel oherwydd eu holl bechodau." Gwnaed fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.