Leviticus 17:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd einioes pob cnawd yw ei waed; yn lle ei einioes ef y mae: am hynny y dywedais wrth feibion Israel, Na fwytewch waed un cnawd; oherwydd einioes pob cnawd yw ei waed: pwy bynnag a'i bwytao, a dorrir ymaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae bywyd pob creadur byw yn y gwaed. Dyna pam dw i wedi dweud wrth bobl Israel fod neb i fwyta cig unrhyw anifail gyda'r gwaed yn dal ynddo. Bydd pwy bynnag sy'n ei fwyta yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
oherwydd y mae bywyd pob corff yn y gwaed. Dyna pam y dywedais wrth bobl Israel, "Nid ydych i fwyta gwaed unrhyw greadur", oherwydd y mae bywyd pob corff yn ei waed; y mae unrhyw un sy'n ei fwyta i'w dorri ymaith.