Leviticus 17:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phob dyn a'r a fwytao'r peth a fu farw ohono ei hun, neu ysglyfaeth, pa un bynnag ai priodor, ai dieithrddyn; golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydded aflan hyd yr hwyr: yna glân fydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Os ydy rhywun yn bwyta cig anifail sydd wedi marw neu gael ei ladd gan anifail gwyllt, rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd. Ond ar ôl hynny bydd e'n lân.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"'Y mae unrhyw un, boed frodor neu estron, sy'n bwyta rhywbeth wedi marw neu ei larpio gan anifail, i olchi ei ddillad, i ymolchi du373?r, a bod yn aflan hyd yr hwyr; yna bydd yn ln.